Adrian Coakley-Greene o Werthwyr Pysgod Coakley-Greene, Marchnad Abertawe
Sefydlwyd Coakley-Greene i ddechrau yn 1 Stryd y Geifr yng nghanol Abertawe ym 1856 gan hen daid a hen nain Adrian.
Tynnwyd y llun isod ym 1907 ac mae’n dangos hen nain falch Adrian, gyda’i merch, y tu allan i’w siop bysgod. Roedd yr arddangosfa yn y ffenestr yn llawn pysgod ond nid ffenestr wydr go iawn oedd hi ac, yn bendant, nid oedd iâ na dull i gadw’r pysgod yn oer.
Dinistriwyd Stryd y Geifr yn ystod y cyrchoedd awyr ym 1941 ac adleoliwyd Coakley-Greene i adeilad marchnad dros dro Abertawe.
Siop bysgod Coakley-Greene, wedi’i hadleoli i Farchnad dros dro Abertawe ym 1952.
Agorodd y farchnad, a oedd newydd ei hadeiladu, ar Stryd Rhydychen ym 1961 a bu cyffro mawr ynghyd â gobaith am ffyniant masnachwyr y farchnad yn y dyfodol.
Cymerwyd y busnes drosodd gan dad Adrian, sef Francis, ar yr adeg hon a dechreuodd cyfnod newydd.
Tynnwyd y llun isod tua 1969 ac mae’n cynnwys Francis Coakely-Greene a’i staff. Mae Francis bellach yn 97 a gellir ei weld ar achlysuron y tu ôl i gownter y stondin ym Marchnad Abertawe.
Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae Adrian wedi gweld sut mae arferion siopa pobl wedi newid a sut mae’r busnes wedi gorfod addasu. Yn benodol, cynyddodd amrywiaeth y rhywogaethau o bysgod a oedd ar gynnig oherwydd, wrth i fwy o bobl ddechrau teithio dramor ar eu gwyliau, daeth eu chwaeth am bysgod yn fwy anturus. Yn ogystal â hyn, wrth i boblogaeth Abertawe ddod yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd dros y 50 mlynedd diwethaf, cynyddodd y galw am rywogaethau mwy egsotig o bysgod.
Mae angen sicrhau arddangosfa ddeniadol ar bob adeg i roi hyder i gwsmeriaid bod y pysgod yn cael ei gadw mor ffres â phosib. Mae Adrian a’i staff yn treulio oriau bob bore gyda sglodion iâ, cerfluniau iâ, persli, lemon etc, gan wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn gweld golygfa drawiadol.
Mae tad Adrian, Francis, yn hynod falch o’r ffaith bod personél o Selfridges yn Llundain wedi ymweld â’i stondin ar un adeg i gael syniadau am eu hadran bysgod eu hunain. Nodwyd mewn llythyr o ddiolch y byddai cwmni mawr Selfridges yn barod i’w wahodd i ginio neu ryw fath o adloniant hwyliog o’i ddewis.
Dros y blynyddoedd, mae Coakley-Greene wedi dod yn enwog yn lleol a’r tu hwnt am eu bod yn gwerthu pysgod anghyffredin. O forgwn trwynog sy’n pwyso 19 stôn a marchgrancod coch o Norwy i gathod môr 6 throedfedd o hyd, mae Coakley-Greene wedi gwerthu pob un ohonynt. Gan ddweud hynny, ei ddarganfyddiad mwyaf cyffrous oedd pysgodyn sydd mor brin, mae’n cael ei adnabod gan ei ddosbarthiad Lladin yn unig – Luvarus Imperialis – ac mae’n edrych fel cyfuniad o diwna a dolffin. Does bron neb wedi’i weld gan ei fod yn nofio mor ddwfn o dan y môr fel arfer. Rhoddodd Adrian y creadur mawr coch â thrwyn pŵl i fiolegwyr môr a chredir ei fod bellach yn Amgueddfa Astudiaethau Natur Llundain.
Un o hoff adegau Adrian dros y 50 mlynedd diwethaf oedd cwrdd â’r Tywysog Charles. Daeth y Tywysog Charles, a ymwelodd ag Abertawe ar 3 Gorffennaf 1969 i gyhoeddi bod Abertawe’n derbyn statws dinas, i Farchnad Abertawe yn 2012 i weld pam y mae Adrian a’i gyd-fasnachwyr mor bwysig i’r farchnad ac i’r ddinas yn gyffredinol.
Er bod pethau wedi newid dros 50 mlynedd ac mae masnachu’n bendant yn fwy heriol nawr, mae Adrian yn gadarnhaol am ddyfodol ei fusnes a Marchnad Abertawe.
“Mae Marchnad Abertawe bob amser wedi bod yn atyniad gwych i bobl o bob cwr o’r wlad, hyn yn oed am ddim rheswm arall ond i fwynhau’r cocos a bara lawr enwog. Yn gyffredinol, mae pobl yn ystyried gwerthwyr pysgod annibynnol fel arbenigwyr ac rydym yn gweithio’n galed i gynnig cynnyrch o safon a gwybodaeth arbenigol i’n cwsmeriaid. Mae ein busnes teuluol wedi tyfu’n gyson dros yr 50 mlynedd diwethaf a, gyda’m merch Annabel a’n tîm o staff, rydym yn sicr yn bwriadu cynnal y traddodiad hwnnw!” – Adrian Coakley-Greene