Ydych chi rhwng 16 a 30 oed ac mae gennych eich busnes eich hun? Neu efallai eich bod yn meddwl am roi cynnig ar fod yn fasnachwr?
Yna mae gennym y cyfle perffaith i chi!
Mae’r Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Marchnad (NMTF) yn cynnal cystadleuaeth flynyddol i ddod o hyd i Fasnachwr Marchnad Ifanc gorau’r genedl ac mae Abertawe wedi ymuno â nhw i hyrwyddo’r doniau ifanc gwych sydd gennym yn Ne Cymru.
Mae AM DDIM ac mae’n hawdd iawn cymryd rhan! Caiff llain a thrydan eu darparu ar eich cyfer ac mae pedwar categori gwahanol y gallwch gystadlu ynddynt – nwyddau groser, manwerthu cyffredinol, celf a chrefft a bwyd a diod.
I gofrestru’ch diddordeb, llenwch y ffurflen ar-lein syml hon NMTF | Young Traders Market
Yna cewch wahoddiad i rownd leol Marchnad Abertawe ddydd Sadwrn 25 Mai. Os ydych yn creu argraff ar y beirniaid rydych yn sicr o gael lle yn Rownd Derfynol Ranbarthol De Cymru ddydd Sadwrn 27 Gorffennaf.
Y llynedd aeth 10 masnachwr ifanc o Rownd Derfynol Ranbarthol De Cymru ymlaen i gystadlu yn y Rownd Derfynol Fawreddog yn Stratford-upon-Avon ym mis Awst.
Felly os ydych chi rhwng 16 a 30 oed ac:
- Mae gennych fusnes neu syniad am fusnes yr hoffech chi i ni ei brofi, neu
- Rydych eisoes yn fasnachwr sefydledig ond yn awyddus i’ch busnes gael mwy o sylw, neu
- Mae gennych fusnes sy’n bodoli ond nid ydych wedi rhoi cynnig ar fanwerthu eto.
Cofrestrwch heddiw ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch marchnadabertawe@abertawe.gov.uk