Mae Marchnad Abertawe’n cynnal rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn sy’n aml yn cynnwys adloniant byw, gweithgareddau difyr a mwy!
Marchnad y Masnachwyr Ifanc – Dydd Sadwrn 12 Ebrill, 10am-4pm – Bydd entrepreneuriaid ifanc 16 i 30 oed yn dangos eu cynnyrch ac yn cystadlu am le yn Rownd Derfynol Ranbarthol De Cymru. Cyflwynwch gais ar-lein nawr!
Marchnadoedd Bach Feganaidd – Bydd Marchnadoedd Bach Feganaidd yn ymddangos yn y farchnad yn rheolaidd, gan droi Gardd y Farchnad yn hafan o fwydydd blasus o bedwar ban byd, y cyfan yn 100% feganaidd.