- Y Cwadrant (drws nesaf i Candles & Co )
- Stryd yr Undeb (rhwng Blue Banana a Valley Mill)
- Whitewalls (rhwng Jenkins Bakery a’r Card Centre)
- Stryd Rhydychen (rhwng Banc Lloyds TSB a EE)
Marchnad Abertawe, Stryd Rhydychen Abertawe SA1 3PQ Gyda thros 100 o stondinau, efallai y bydd angen help arnoch i gael eich traed tanoch wedi i chi gyrraedd y farchnad! Rydym wedi llunio’r map defnyddiol hwn i’ch helpu i ddod o hyd i’r stondinau.
Bydd mapiau ar gael hefyd ger pob mynedfa a llyfrynnau’r farchnad i’ch helpu.
Croesewir cŵn s’yn ymddwyn yn dda o bob lliw a llun belled â’u bod ar dennyn a bod eu rheolwyr yn dilyn y rheolau a ddangosir.
Mae Marchnad Abertawe ar agor 6 diwrnod yr wythnos, ond gall hyn newid yn ystod gwyliau a chyfnodau prysur.
Oriau Agor Safonol O ddydd Llun i ddydd Sadwrn: 8am i 5pm Dydd Sul: Ar gau
Mae Marchnad Abertawe ar gau bob dydd Llun Gŵyl y Banc.
Darllenwch y wefan hon i gael y newyddion diweddaraf neu ffoniwch Swyddfa’r Farchnad ar 01792 654 296 i gael rhagor o fanylion.