Croeso i Ardd y Farchnad!
Yng nghanol y farchnad mae ardal unigryw lle gallwch fwyta, gweithio a mwynhau.
Gallwch gwrdd â ffrindiau i gael cinio o dan y deildy 7.5m o uchder, mwynhau coffi a gwefru’r gliniadur neu roi cynnig ar rywbeth blasus o un o’n stondinau a mwynhau’r awyrgylch.
Mae rhywbeth i bawb!
Bwyta
Does dim angen cweryla dros ble i fwyta mwyach! Gall pawb ddewis yr hyn maent am ei fwyta o un o’n stondinau bwyd anhygoel, ac yna eistedd i fwynhau’r cyfan gyda’i gilydd yng Ngardd y Farchnad.
Mae cynheswyr poteli/bwyd babanod, cadeiriau uchel a bwrdd chwarae i blant bach yn golygu bod modd bwydo a diddanu’r rhai bach hefyd.
A bydd ein gorsaf ddŵr Jac Abertawe’n rhoi gwên ar wyneb eich cŵn wrth i Farchnad Abertawe ddod yn gyfleuster sy’n addas i gŵn!
Gwaith
Mae Gardd y Farchnad yn cynnig man gweithio unigryw yng nghanol y ddinas. Gyda mannau gwefru, cyfleusterau gwefru ffonau symudol a seddi meinciau uchel, dyma’r ardal gweithio modern berffaith. Ac wrth gwrs, bydd gennych ddigon o opsiynau coffi a chinio o safon!
Mwynhau
Mae cymaint i’w fwynhau yng Ngardd y Farchnad, lle gallwch gael blas ar yr awyr agored, dan do. Gyda thros 170 o blanhigion, mae’n werddon fytholwyrdd yng nghanol y farchnad drwy gydol y flwyddyn. Boed law neu hindda, mae rhywle i chi eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio wrth fwynhau seigiau a danteithion blasus y farchnad.
Gellir hefyd drawsnewid yr ardal ar gyfer digwyddiadau’r farchnad fel cerddoriaeth fyw, arddangosfeydd, dathliadau tymhorol a marchnadoedd bach. Mwy yn y man!