Dydd Sadwrn 19 Hydref, 11am – 4pm
.
Mae Partneriaeth Bwyd Abertawe’n cyflwyno Blas ar Farchnad Abertawe!
Ymunwch â ni am ddiwrnod o arddangosiadau coginio blasus gan Private Chef Christos, sy’n arddangos cynhwysion mwyaf ffres Marchnad Abertawe.
Bydd y pen-cogydd preifat, Christos, yn creu seigiau blasus gan ddefnyddio cynhwysion ffres o’r farchnad! Bydd cerddoriaeth fyw wych hefyd gan Cwmbwrele Ukestra & Linda Dennis.
11am – 11:30am Arddangosiadau coginio gyda Chef Christos
11:30am – 12:30pm Cerddoriaeth fyw gyda Cwmbwrele Ukestra
12:30pm – 1pm Arddangosiadau coginio gyda Chef Christos
1pm – 2pm Cerddoriaeth fyw gyda Tenovus Cancer Choir
2pm – 2:30pm Arddangosiadau coginio gyda Chef Christos
2:30pm – 4pm Cerddoriaeth fyw gyda Linda Dennis
Ariennir y digwyddiad hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.