Mae’r busnes teuluol hwn wedi aros ar yr un safle lle’i sefydlwyd bron 100 o flynyddoedd yn ôl ym 1917! Yn rhan amlwg o fywyd Abertawe ers 99 o flynyddoedd, gall y ffasiynau fod wedi newid ond mae llwyddiant gwerthoedd traddodiadol megis gonestrwydd, uniondeb a gwasanaeth hen ffasiwn yn golygu’r un peth i Tuckers!
Gyda thros 200 o fathau, gan ddibynnu ar y tymor a’r argaeledd, mae Tuckers Fish yn cyflenwi cynnyrch i’r pen-cogyddion a’r bwytai gorau yn ne Cymru, felly rydych yn gwybod eich bod yn prynu’r pysgod a’r bwyd môr mwyaf ffres o’r ansawdd gorau, wedi’u dewis gan staff profiadol.
Stondin Hanesyddol Stondin 49F 01792 652277
info@tuckersfreshfish.co.uk www.tuckersfreshfish.co.uk