Mae Get Fresh, a sefydlwyd yn y 1930au, yn fusnes teuluol sy’n arbenigo mewn cynnyrch ffres o fro Gŵyr, yn cefnogi ffermwyr a busnesau lleol lle bo modd. Mae ffrwythau a llysiau ffres ar gael bob dydd ar y stondin, sydd hefyd yn derbyn archebion ar-lein ac yn dosbarthu i Abertawe a’r ardaloedd cyfagos.
Mae dros 30 o dafarnau a bwytai’n defnyddio’r masnachwr hwn fel eu cyflenwr oherwydd ei lwyddiant a safon uchel y cynnyrch a ddarperir gan Get Fresh.
Mae basgedi ffrwythau, trefniadau blodau a phlanhigion hefyd ar gael a gellir darparu ar gyfer unrhyw achlysur.
Stondinau U1 & 44C
💳 Taliadau â cherdyn
01792 642247