Gellir olrhain gwreiddiau’r busnes teuluol hwn yn ôl i 1840, pan y’i hadwaenid yn wreiddiol fel The Mill in Tumble ac roedd y teulu’n gwehyddu ac yn gwerthu eu gwlanenni eu hunain. Yn y pen draw, newidiwyd ei enw i The Welsh Stall a heddiw, maent yn cynnig pob math o eitemau a chofroddion o Gymru! Gan gynnig llwyau caru a wnaed â llaw, doliau Cymreig a gwisgoedd traddodiadol Cymreig, tsieni, magnedau, cylchau allweddi a mwy, The Welsh Stall yw’r unig siop grefftau Gymreig ddynodedig yng nghanol y ddinas.
Stondin 33 01792 655695