.
Cenhadaeth y Farchnad yw gweithio gyda’n masnachwyr, ein haelodau staff, ein cyflenwyr a’n cwsmeriaid i greu diwylliant o ymwybyddiaeth amgylcheddol fel sail i’n holl arferion gweithredu ac sy’n cefnogi ein hamlygrwydd fel arweinydd yn y diwydiant a gwireddu Marchnad sero net erbyn 2030.
Wrth wraidd ein cenhadaeth, ceir sawl amcan amgylcheddol craidd, sef:
A. Parhau i leihau gwastraff
B. Ailgylchu cymaint â phosib
C. Lleihau’r defnydd o ynni
Ch. Defnyddio cynnyrch a gwasanaethau cynaliadwy.
Aseswyd ein darpariaethau a’n harferion presennol a lluniwyd Cynllun yr Amgylchedd a gyflwynir dros gyfnodau tymor byr, tymor canolig a thymor hir o 2023.
Mae’n cynnwys amrywiaeth o fesurau ymarferol sy’n bwriadu lleihau ôl troed carbon y Farchnad ac adeiladu ar y sylfaen o gyflawni lleihad o bron 50% o ran gwastraff cyffredinol a gradd effeithlonrwydd ynni uchaf posib Llywodraeth y DU ar gyfer yr adeilad.
Gan fod y Farchnad dan reolaeth y cyngor, bydd y mesurau hyn yn cefnogi manylion Polisi Newid yn yr Hinsawdd.
.
Ein nodau tymor byr yw:
-Lleihau gwastraff cyffredinol gan y masnachwyr trwy eu cefnogi i weithredu’r ddeddfwriaeth newydd ac sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.
-Cynyddu proffil ‘Cenhadaeth yr Hinsawdd’ y Farchnad a lleihau gwastraff cyffredinol gan ymwelwyr â’r Farchnad.
-Newid sut rydym yn gweithredu’r toiledau cyhoeddus i’w gwneud yn fwy ynni effeithlon.
Ein nodau tymor canolig yw:
-Ceisio cyllid i uwchraddio systemau goleuadau, gwydro a phaneli solar y Farchnad ymhellach.
-Ar gyfer y gwasanaethau glanhau a phorthorol, ystyried newid nwyddau ac eitemau i gynnyrch mwy ecogyfeillgar.
-Datblygu a hyrwyddo Addewid Hinsawdd y Farchnad.
-Adolygu a diweddaru polisïau’r Farchnad a’i gweithdrefnau gweithredu arferol.
-Ehangu defnydd masnachwyr o fesuryddion trydan ar draws Neuadd y Farchnad.
Ein nodau tymor hir yw:
-Yn destun cyllid, gwneud gwaith i uwchraddio systemau goleuadau, gwydro a phaneli solar y Farchnad trwy osod paneli solar ychwanegol ar y to.
-Ceisio statws achrediad ffurfiol ar gyfer uchelgeisiau amgylcheddol y Farchnad.
-Datblygu arferion caffael gyda chontractwyr allanol sydd wedi’u seilio ar arferion amgylcheddol cynaliadwy.