Gadewch i ni gyflwyno aelod newydd Teulu Marchnad Abertawe, Jac! Er mwyn dathlu bod Marchnad Abertawe’n addas i gŵn, rydym wedi mabwysiadu ein ci bach ein hunain!
Mae wedi’i enwi ar ôl ei arwr, Jac Abertawe; gallwch ei weld pan fydd yn ymddangos yn y Farchnad. Cofiwch dynnu llun ohono; mae’n gyfeillgar iawn ac yn mwynhau hun-lun!
Ci dewr lleol oedd Jac Abertawe, a achubodd 27 o bobl rhag boddi yn nociau a glannau afon Abertawe yn ystod y 1930au. Derbyniodd gwpan arian oddi wrth Faer Abertawe am ei weithredoedd arwrol, ac enillodd deitl ‘Ci’r Ganrif’ yn 2000! Gallwch weld y rheswm pam ei fod yn ysbrydoliaeth i’n ci, Jac! Gallwch ddarllen rhagor am Jac Abertawe yma.