Yn y 18fed ganrif, penderfynwyd bod angen mwy o welliannau gan ei bod yn gymaint o lwyddiant yr oedd wedi tyfu’n rhy fawr i’r farchnaty! Ymladdodd masnachwyr am leoedd yno, ac roedd stondinau’n llenwi’r strydoedd amgylchynol, a ddatblygodd lysenwau’n fuan megis Stryd y Menyn, lle byddai gwerthwyr llaethdy’n masnachu a Stryd y Tatws lle gwerthid llysiau.
Daeth y farchnad fywiog hon yn berygl i iechyd, yn enwedig stondinau’r cigyddion, felly sefydlwyd marchnadfa newydd yn benodol ar gyfer gwerthu cig. Cafodd ei foicotio ar ôl hyn gan y cigyddion y’i hadeiladwyd ar eu cyfer, a oedd yn ddig am eu bod wedi colli eu hen safleoedd, a dychwelodd y rhain i werthu cig ar strydoedd yn agos at y marchnaty gwreiddiol.
Yn yr 19eg ganrif, tyfodd y boblogaeth yn sylweddol yn Abertawe, a dechreuodd y ddinas ymestyn yn wasgarog i’r gorllewin, o’i safle canoloesol. Byddai marchnad newydd yn cael ei hadeiladu i adlewyrchu’r cynnydd newydd hwn yn y ddinas; byddai hon ar gyfer cigyddion, gwerthwyr pysgod, ffrwythau a llysiau ffres, stondinau’n gwerthu crefftau a nwyddau, fel marchnad heddiw, ond gyda gwartheg, defaid a cheffylau’n cael eu masnachu hefyd.
Efallai y cafwyd Stryd y Menyn a Stryd y Tatws, ond chwedl drefol yw mai ‘Stryd y Gwin’ oedd enw gwreiddiol Stryd y Gwynt.
Yn yr 19eg ganrif, tyfodd y boblogaeth yn sylweddol yn Abertawe, a dechreuodd y ddinas ymestyn yn wasgarog i’r gorllewin, o’i safle canoloesol. Byddai marchnad newydd yn cael ei hadeiladu i adlewyrchu’r cynnydd newydd hwn yn y ddinas; byddai hon ar gyfer cigyddion, gwerthwyr pysgod, ffrwythau a llysiau ffres, stondinau’n gwerthu crefftau a nwyddau, fel marchnad heddiw, ond gyda gwartheg, defaid a cheffylau’n cael eu masnachu hefyd.
Agorodd y farchnadfa newydd hon ar Stryd Rhydychen ym 1830, lle saif marchnad heddiw. Roedd yn cymysgu elfennau dan do ac awyr agored, to wedi’i leinio â simneiau â mwg yn llifo’n donnau ohonynt, ac 89 o stondinau wedi’u cynnwys mewn caeadle wal o’i gwmpas. Roedd y canol yn cynnwys ystafell bwyso, ystafell bwyllgor a thŵr cloc crand a adeiladwyd o gerrig o’r farchnad flaenorol, a ymddyrchafai uwchben y nenlinell.
Arferid cynnal 5 ffair flynyddol yn Abertawe a’r farchnad, o’r cyfnod Canoloesol tan oes Fictoria, ond cawsant eu gwahardd ym 1863 oherwydd ymddygiad afreolus!