Gyda thwf diwydiannaeth, tyfodd y boblogaeth hyd yn oed yn fwy, ac mewn 60 mlynedd yn unig roedd wedi tyfu’n aruthrol o 13,000 i 90,000! O ganlyniad, roedd y farchnad gyntaf hon ar Stryd Rhydychen wedi darfod amdano am ei fod wedi dirywio’n sylweddol, roedd y golau yno’n wael, ac roedd y ffaith ei bod yn agored i dywydd gwlyb Abertawe a bod ganddi system ddraenio annigonol yn golygu bod lleithder yn broblem enfawr.
Felly cynhaliwyd cystadleuaeth! Gwahoddwyd penseiri i ddylunio’r farchnadfa orau, a dyfarnwyd y contract buddugol i J. Buckley Wilson and Glendenning Moxham, penseiri hen-sefydledig yn yr ardal leol.
Roedd 21 o ddyluniadau’n cystadlu â’i gilydd i ennill 50 gini yn y gystadleuaeth i ddylunio’r farchnad, sef tua £4,000 heddiw.
Dadorchuddiwyd eu gweledigaeth hwy o’r farchnad i’r cyhoedd ym 1897. Roedd yn addurnol ac yn llawer mwy mawreddog nag unrhyw beth a gafwyd o’r blaen. Roedd pyrth coeth yn caniatáu mynediad drwy waliau allanol rhodresgar.
Mae gan rai o’n masnachwyr wreiddiau yn y farchnad sy’n mynd yn ôl mor bell â 120 flynyddoedd!
Ei tho oedd yr adeiledd gwydr a gwaith haearn mwyaf ar yr adeg honno yn y DU. Roedd wedi’i hamgáu’n gyfan gwbl am y tro cyntaf, gan olygu y gellid gosod goleuadau trydan ynddi.
Roedd y trydan a gyflenwyd gyntaf i’r farchnad yn dod yn uniongyrchol o orsaf bŵer ar y Strand.
Yn y farchnad hon, gwerthid cynnyrch ffres o benrhyn Gŵyr yn ddyddiol. Mae’r arfer hwn, sy’n parhau heddiw, yn elfen sylfaenol o’r farchnad ac mae’n atyniad poblogaidd i dwristiaid.
Yn y 1970au roedd gan y farchnad dros 670 o stondinau!