Mae pysgota cocos yn ddiwydiant a arweinir gan fenywod sydd wedi bodoli yn y farchnad ers canrifoedd, ac sy’n dal i fynd heddiw!
Gyda chymorth asynnod, byddai’r “menywod cocos” yn cynaeafu cocos ffres yn ddyddiol ym moryd Penclawdd a, than i linell reilffordd agor ym 1867, byddent yn cerdded i Farchnad Abertawe bob dydd i werthu eu cynnyrch ffres – sef tua 8 milltir bob ffordd!
Hyd yn oed ar ôl y Blitz, dyfalbarhaodd y menywod cocos!
Yn draddodiadol, gwisgai’r menywod cocos wisg Gymreig, traddodiad sy’n ailymddangos bob Dydd Gŵyl Dewi ym marchnad fodern Abertawe.