Mae cynlluniau newydd ar y gweill i wneud Marchnad Abertawe hyd yn oed yn fwy croesawgar i siopwyr a masnachwyr.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol Gardd y Farchnad a’r ddarpariaeth cyfleusterau toiled, ein bwriad nesaf yw gwella’r mynedfeydd allanol yn Stryd Rhydychen, Whitewalls ac Union Street. Ein ffocws yw gwneud y Farchnad yn fwy gweledol ar y stryd a sicrhau bod pobl yn cael argraff groesawgar o’r Farchnad arobryn ar eu hymweliad cyntaf.
Yn dilyn proses gaffael gref, penodwyd Tangent Partnership Ltd fel y contractwr llwyddiannus i gyflwyno’r prosiect hwn. Gweithiodd Tangent gyda’r Farchnad i gyflwyno Gardd y Farchnad, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac maent yn awyddus iawn i ymgymryd â’r her newydd hon.
Ar y cam hwn o’r prosiect, mae 3 dyluniad gwahanol ar gyfer mynedfeydd y farchnad wedi’u datblygu.
Camau nesaf
Bydd Tîm y Prosiect nawr yn asesu’r adborth a dderbyniwyd er mwyn nodi’r dyluniad cyffredinol a ffefrir ac i wneud newidiadau priodol i’r dyluniad hwn lle bo hynny’n ymarferol.
Bydd hyn yn caniatáu i ni baratoi cais cynllunio, cytuno ar raglen waith derfynol, tendro ar gyfer contractau a chadarnhau costau ar gyfer pob rhan o’r cynllun.
Wrth i’r prosiect ddatblygu, bydd diweddariadau ar gael yma neu drwy ein dilyn ar Facebook, Instagram ac X.