Gwreiddiau Annisgwyl Brontasaurus
Dathlu hanner canmlwyddiant Abertawe fel dinas; mae Charlotte Berry, perchennog y stondin ffordd o fyw feganaidd, Brontosaurus, a’i thad-cu John, yn myfyrio ar wreiddiau annisgwyl Charlotte ym Marchnad Abertawe.
Agorodd y stondin ffordd o fyw feganaidd poblogaidd, Brontosaurus, ym Marchnad Abertawe yn 2017, ac mae Charlotte wedi profi ei bod hi’n entrepreneur blaengar, trwy ddod yn aelod gweithgar o’r Ffederasiwn Masnachwyr Marchnad a lansio’r Farchnad Fach Feganaidd llwyddiannus, sy’n meddiannu canol y farchnad bob deufis.
Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod fod yn fentrus yn ei gwaed, wrth i’w thad-cu cofio’r stondin a oedd gan ei deulu ym Marchnad Abertawe rhwng 1963 a 1988 – er ei bod ym maes gwahanol iawn! Siop cigydd ym marchnad Abertawe oedd D.E. Powell gydag amrywiaeth o siopau eraill trwy Abertawe. Enwyd y fenter teulu ar ôl Doris, sef hen fam-gu Charlotte.
Cafodd hen dad-cu Charlotte, Raymond, ei hen ewythr, Tony, a’i dad-cu John eu hyfforddi yn Llundain er mwyn iddynt ddod yn gigyddion medrus; ac er ei fod yn faes gwrywaidd yn bennaf, mae John yn cofio’i chwiorydd Sylvia a Sheila yn gweithio ar y stondin hefyd, yn ogystal â hen fam-gu Charlotte, Doris.
“Rwy’n cofio Marchnad Abertawe ar y safle hwn, ond fel marchnad awyr agored o ganlyniad i’r Blitz. Wrth fynedfa’r farchnad, byddech yn cael eich croesawu gan sawl menyw o Ben-clawdd a fyddai’n gwisgo siolau Cymreig ac a oedd yn gwerthu cocos a bara lawr.” Mae John yn cofio, “Mae’n bosib mai un o’r newidiadau mwyaf i’r farchnad mewn 50 mlynedd yw’r newid yn nhechnoleg. Nid oedd llawer o reweiddiad pryd hynny ac roeddem yn defnyddio punnoedd, sylltau a cheiniogau; rwyf hyd yn oed yn cofio defnyddio fy llyfr dogni i brynu losin! Heddiw, mae ffonau symudol, cyfrifiaduron a chardiau talu digyffwrdd.”
Mae Charlotte wedi dychwelyd i wreiddiau ei theulu yn y farchnad, “Rwy’n dod o deulu sy’n cynnwys nifer o fenywod busnes ac ni fyddent byth yn bodloni ar unrhyw beth. Tair cenhedlaeth yn ddiweddarach, rwyf bellach yn parhau â’r traddodiad gyda’m stondin fy hun, ond mewn maes gwahanol iawn!”