Enillodd Catherine Butler, menyw fusnes leol o benrhyn Gŵyr, wobr nodedig Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn yng ngwobrau Busnes De Cymru 2019 mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngwesty’r Bear yn y Bontfaen ac a gyflwynwyd gan Sara Edwards.
Cymerodd Catherine fusnes teuluol Hugh Phillips Gower Butcher drosodd yn 2016, a gwnaeth pob ymdrech i ddatblygu sylfaen gwsmeriaid a phresenoldeb ar-lein. Y cigydd ym Marchnad Abertawe yw’r unig un i gael statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig), sy’n golygu bod y cig yn dod o Gymru, ac y gellir ei olrhain yn llawn. Mae siop ar-lein wedi’i chreu ac mae’n dosbarthu cynhyrchion cig Cymreig i gwsmeriaid ar draws y DU.
Yn 2018 agorodd Catherine ei hail fusnes, sef Deli Cymreig, ac roedd yn falch iawn o allu ei osod ym Marchnad Abertawe, marchnad dan do fwyaf Cymru, yn agos at ei stondin gig sefydledig.
Yn 2019, mae Catherine wedi gweithio’n galed i ehangu rhan Deli’r busnes, gyda chyfleuster cegin wedi cael ei adeiladu i ddarparu bwydydd cartref yn unol ag ethos y cwmni, sef cyflenwi cynnyrch lleol a ffres o safon.