Mae stondinau yn y farchnad yn cael eu rheoli a’u gosod gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe drwy wasanaeth Rheoli Canol y Ddinas.
Mae oddeutu 100 o unedau ‘siop’ sy’n amrywio mewn maint o 100 i 300 troedfedd sgwâr. Mae gan y cyngor restr aros o fasnachwyr arfaethedig ac mae’r rhain yn cael gwybod pan fydd stondin ar gael i’w gosod.
Am ragor o wybodaeth am osod stondin ym Marchnad Abertawe neu i ymuno â’r rhestr aros, cysylltwch â ni drwy ein ffurflen adborth.
Stondinau ar gael
Stondinau Marchnad Abertawe i’w Rhoi ar Osod
Mae’r stondinau canlynol ar gael i’w gosod ar hyn o bryd. Os yw’r amodau’n dderbyniol ac y deuir i gytundeb â’r tenant sy’n gadael (os yw’n berthnasol), bydd angen cyflwyno ffurflen gais i Reoli Canol y Ddinas. Sylwer y bydd angen caniatâd y cyngor hefyd ar gyfer unrhyw newid yn y defnydd masnachu neu newidiadau mawr i gynllun y stondin.
MARCHNAD DAN DO ABERTAWE FFURFLEN GAIS – TRWYDDED STONDIN NEWYDD
Canllawiau Cyflwyno Cais
Wrth adolygu ceisiadau, mae Rheolaeth Canol y Ddinas yn chwilio am fusnesau a fyddai’n ychwanegu gwerth i ddarpariaeth gyffredinol y farchnad a chynnig rhywbeth newydd i gwsmeriaid. Bydd yn gwerthuso a yw’r cais o fudd i’r farchnad a’r Awdurdod Lleol.
Gan ddibynnu ar natur y cais, efallai bydd angen cyfnod safonol o ymgynghori â stondinwyr presennol yn y farchnad yn ogystal â swyddogion allweddol yn y cyngor, er enghraifft safonau masnach. Bydd angen cynnal gwiriadau ar y tenantiaid arfaethedig.